Methu darllen yr e-bost yma? |
||||||
![]() |
||||||
![]() |
||||||
Groundwork yn Gogledd Cymru Cylchlythyr yr HydrefCroeso i e.gylchlythyr newydd Groundwork. Drwy hwn rydym yn eich rhoi gwybod i chi am ein prosiectau diweddaraf ar draws Gogledd Cymru ac yn gobeithio cael eich ymateb. Yn Groundwork rydym yn helpu pobl i newid eu bywydau er gwell trwy eu cynnwys mewn gwelliannau amgylcheddol ffisegol. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda chymunedau, - y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i gyflenwi prosiectau sy’n helpu pobl i wella eu hiechyd, yr amgylchedd a chynyddu eu gobaith am gyflogadwyedd drwy addysg a hyfforddiant. Y Prosiectau Diweddaraf![]() Adfywio ardal ddiffaith yng Nghei ConaMae Groundwork aThîm Gweithredu Cymuned Cei Cona (Quay CAT) wedi llwyddo i greu gardd gymuned a rhandiroedd ar safle 1.24 acer diffaith yng Nghei Cona, Sir y Fflint. Roedd yr ardd wedi ei hariannu drwy ‘Cadwch Gymru’n Daclus’, Grant Trefi Taclus a Chyngor Sir y Fflint. Y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan AC, Prif Weinidog Cymru, agorodd yr ardd yn ystod Haf 2009. Mae'r gymuned yn falch o gael lle y maen nhw’n gallu ei ddefnyddio i ymlacio, tyfu llysiau a ffrwythau ac annog bioamrywiaeth leol. Os gall Groundwork helpu i drawsnewid eich ardal, gallwch gysylltu â Christine Bowyer ar 01978 757524, christine.bowyer@groundwork.org.uk ![]() Groundwork a’r Ymddiriedolaeth Arbed YnniMae’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni’n bodoli i ostwng lefel allyriannau carbon deuocsid yn y DU drwy hybu arbed ynni a thechnolegau adnewyddadwy. Mae Groundwork yn ymhyfrydu am iddo gael ei ddewis gan EST i helpu i gyflawni ei goliau yng Ngogledd Cymru drwy ddarparu gwybodaeth ddiduedd am ynni adnewyddadwy a gweithio gyda chymunedau lleol i annog arbedion ynni a chost. Dros yr haf rydym wedi bod yn yr Eisteddfod, Sioe Sir Fôn a Sioe Dinbych a Fflint. Byddwn hefyd yn mynychu Gŵyl Fwyd Yr Wyddgrug ym Mis Medi a Gŵyl Conwy ym Mis Hydref. Os hoffai eich cymuned arbed ynni neu ymchwilio i bethau adnewyddadwy, gallwch gysylltu â Nia Lederle 01978 757524,nia.lederle@groundwork.org.uk ![]() Lansio Gweithgareddau Iach Newydd yng Nglannau DyfrdwyMae prosiect Mentro Allan Groundwork yn hybu gweithgareddau awyr agored ar gyfer oedolion ag anableddau corfforol, anableddau dysgu, diffygion synhwyraidd a’u gofalwyr. Ar 3 Gorffennaf, lansiwyd datblygiad diweddaraf y prosiect gan Mark Tami AS, - rhaglen Beicio a cherdded Llychlynnaidd wythnosol yng Nghanolfan Menter Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint. Mae hon yn ychwanegiad cyffrous i'r amrywiaeth o raglenni y mae Mentro Allan wedi’u datblygu. Os hoffech gymryd rhan fwy actif, gallwch gysylltu â Chris Fox on 01978 757525, chris.fox@groundwork.org.uk
|
Prif feysydd gwaithAMGYLCHEDDMae ein Tîm Amgylchedd yn cyflawni gwelliannau amgylcheddol ffisegol, yn meithrin deialog, perchnogaeth a chyfranogiad yn y gymuned yn ystod pob cam prosiect. ADDYSG A GWAITHMae ein Tîm Addysg a Gwaith yn helpu unigolion a chymunedau i ddelio â newidiadau hinsawdd a datblygu sgiliau a gyrfaoedd gwyrdd. IECHYDMae ein Tîm Iechyd yn gweithio i helpu cleientiaid anabl a rhai dan anfantais i wella eu hiechyd a’u lles.
|
|||||