Methu darllen yr e-bost yma? arllenwch yr cylchlythyr yn eich porwr gwe Newidiwch eich tanysgrifiad .

Cylchlythyr Gwanwyn, Groundwork Gogledd Cymru

Croeso i E-Gylchlythyr Gwanwyn, Groundwork Gogledd Cymru. Yn Groundwork Gogledd Cymru, rydym yn creu prosiectau a gwasanaethau sydd o fudd i bobl ac i'r amgylchedd ehangach. Bob blwyddyn, byddwn yn gweithio ar dros drigain o brosiectau unigol, gan ganolbwyntio ein gweithgareddau ar gymunedau difreintiedig, lle gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf. Dyma ychydig o wybodaeth am ein prosiectau diweddaraf;

Ychydig newyddion am ein prosiectau diweddaraf

Groundwork sy'n rhedeg ail gymal Rhaglen Gyflogaeth Cronfa Swyddi'r Dyfodol

Mae Groundwork wrth ei fodd ei fod yn dechrau gweithio ar ail gymal Rhaglen Gyflogaeth Cronfa Swyddi'r Dyfodol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ym Mai 2010. Byddwn yn creu 156 o swyddi ar gyfer pobl ifanc sydd wedi bod yn ddi-waith am dros chwe mis. Profodd y cynllun yn boblogaidd ac yn llwyddiannus, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ifanc. Mae'r rhai a elwodd o'r cymal cyntaf bellach yn symud ymlaen i swyddi a hyfforddiant. Bu un gŵr ifanc yn gweithio yn Adnoddau Dynol (HR) ac mae bellach yn mynd ymlaen i astudio HR mewn coleg; bu un arall yn gweithio'n llwyddiannus yn Swyddfa Cyngor ar Bopeth ac mae bellach yn mynd ymlaen i gael hyfforddiant fel cynghorwr.

Groundwork yn trawsnewid gerddi Ysgol Penrhyn

Cysylltodd Ysgol Penrhyn, Brychdyn Newydd, Wrecsam â Groundwork i ofyn am help i ddatblygu gerddi'r ysgol. Roedd yno ddiffyg cyfarpar chwarae a diffyg mannau i astudio natur. Bu Groundwork yn gweithio gyda Chlwb Eco'r ysgol i ail-lunio y tu allan i'r adeilad. Ymgynghorwyd â disgyblion ac athrawon; ein bwriad oedd gwneud y tir yn lle llawer iawn mwy diddorol i chwarae ac i ddysgu ynddo.

Mae'r man chwarae bellach wedi'i gwblhau ac yn cynnwys cromen helyg, cwch chwarae, cylch straeon, tomenni cynefin, bwrdd adar, boncyffion gwehyddu, trawstiau cydbwysedd, Draig Gymreig ac angenfilod allan o deiars. Bellach mae gan yr ysgol ystafell ddosbarth awyr agored ac mae gan y plant ofod llawer iawn mwy cyffrous i chwarae ynddo


Taith Gerdded i ddathlu tair blynedd o ariannu gan y loteri

Dathlodd Groundwork lwyddiant Taith Gerdded yn Wrecsam ac yn Sir y Fflint trwy ddigwyddiadau i nodi diwedd yr ariannu gan y Loteri Fawr. Darparodd y cynllun deithiau cerdded rhad ac am ddim, dan arweiniad gwirfoddolwyr hyfforddedig, i gymunedau lleol. Sefydlwyd y Teithiau Cerdded i annog pobl i wella eu hiechyd a pheidio ag eistedd o gwmpas o hyd, yn arbennig, mewn ardaloedd difreintiedig. Mae'r ddau gynllun wedi profi'n llwyddiannus ac yn gynaliadwy. Cyflawnwyd y canlyniadau rhyfeddol hyn yn y tair blynedd ddiwethaf:

  • Dros 90,000 o deithiau cerdded wedi'u cwblhau.
  • Cerddwyd tua 273,000 o filltiroedd yn y tair blynedd ddiwethaf.
  • Ymunodd 3771 o gerddwyr newydd â'r cynllun ers 2007.
  • Hyfforddwyd 280 o wirfoddolwyr i arwain teithiau cerdded ar gyfer eu cymunedau lleol.
  •