Methu darllen yr e-bost yma? arllenwch yr cylchlythyr yn eich porwr gwe Newidiwch eich tanysgrifiad .

Taflen Newyddion Gaeaf Groundwork yng Ngogledd Cymru

Croeso i e-daflen newyddion gaeaf Groundwork. Yn Groundwork ceisiwn helpu pobl i newid eu bywydau er gwell drwy eu cysylltu â gwelliannau amgylcheddol ffisegol. Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth gyda chymunedau a’r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i gyflawni prosiectau sy’n helpu pobl i leihau ôl troed carbon a gwella eu rhagolygon cyflogaeth drwy ennill sgiliau gwyrdd a swyddi gwyrdd.

Ychydig newyddion am ein prosiectau diweddaraf

Creu swyddi gwyrdd ar draws Gogledd Cymru

Mae Groundwork yn helpu i greu swyddi gwyrdd newydd i bobl ifanc ar draws Gogledd Cymru drwy gyflawni rhaglen Cronfa Swyddi’r Dyfodol yr Adran Gwaith a Phensiynau. Erbyn hyn, rydyn ni wedi gosod 30 o bobl ifanc mewn swyddi a byddwn yn gosod 40 arall dros yr ychydig fisoedd nesaf. Ymwelodd y Gwir Anrhydeddus Peter Hain, Gweinidog dros Gymru â’r prosiect ym mis Rhagfyr i gyfarfod â’r grŵp cyntaf o bobl ifanc sydd wedi’u gosod mewn swyddi.

Groundwork ac M&S yn Trawsnewid Cae Chwarae Wrecsam

Mae ein tîm Amgylchedd newydd gwblhau’r prosiect Mannau Mwy Gwyrdd M&S yn Bryn Y Cabanau, Wrecsam. Diolch i arian cynllun codi tâl am fagiau plastig M&S*, rydyn ni wedi gallu ail ddatblygu cae chwarae diffaith yn Hightown. Cynhaliwyd ymgynghoriadau a diwrnodau gweithgareddau yn y gymuned i sicrhau bod trigolion a gwirfoddolwyr lleol yn cymryd rhan yng nghynllunio a chyflawni’r prosiect.

Mae’r lle wedi’i gwblhau erbyn hyn gyda llwybr glân, newydd, cyfarpar chwarae, man picnic, a cherflun brithwaith hardd, meinciau eistedd a phlannu. Trawsnewidiwyd yr ardal i gyd o fod yn safle diffaith i fod yn lle croesawus, gwyrdd a hardd y mae’r gymuned i gyd yn gallu ei mwynhau.

Os gall Groundwork eich helpu i drawsnewid eich ardal leol, gallwch gysylltu â Christine Bowyer, Rheolwr Amgylchedd ar 01978 757524,christine.bowyer@groundwork.org.uk


Pobl ifanc yn Sir y Fflint i drawsnewid safle rhandir

Mae ein prosiect Greencare yn helpu pobl ifanc dan anfantais Sir y Fflint drwy gynnig hyfforddiant a chyfleoedd gwirfoddoli gyda phrosiectau cymunedol lleol. Mae pobl ifanc yn Saltney yn dechrau gweithio ar brosiect newydd cyffrous. Maen nhw wedi sicrhau cytundeb ar y cyd gyda Chyngor Tref Saltney i adfywio hen safle rhandir oedd wedi’i esgeuluso a’i droi’n rhandiroedd ffrwythlon a defnyddiol i’r gymuned leol. Bydd y bobl ifanc sy’n ymwneud â’r prosiect Greencare yn gweithio i ddysgu sut i dyfu ffrwythau a llysiau organig a bwyta’n iach.

* Ym mis Mai 2008, cyflwynodd M&S dâl o 5p am fagiau cario bwyd i annog cwsmeriaid i leihau’r defnydd o fagiau plastig. Mae holl elw’r tâl hwn yn mynd i Groundwork i fuddsoddi mewn ‘Mannau Byw Mwy Gwyrdd’ fel Cae Chwarae Bryn Y Cabanau